Lleoliad

Cynhelir 10k Caerffili o amgylch Tref Caerffili a Chastell Caerffili. Cynhelir 2k Caerffili o amgylch yr ardal cychwyn/gorffen yng Nghastell Caerffili.

Amserlen y Digwyddiad

8.00yb Cyfleusterau newid a bagiau yn agor
9.10yb Y sawl sy’n rhedeg y 2k yn dod at ei gilydd
9.15yb Amser dechrau’r 2k
9.30yb Gweithgareddau cynhesu
9.45yb Agor llinell ddechrau’r 10k er mwyn ymgasglu
10.00yb Amser cychwyn 10k

Cyfarwyddiadau

Cymrwch Gyffordd 32 oddi ar yr M4, yna’r A470 a’r A468 a dilyn yr arwyddion am Gaerffili.

Trafnidiaeth Gyhoeddus

Bydd Tref Caerffili yn cynnal ras 10k Caerffili ar ddydd Sul 13 Medi 2020. O ganlyniad bydd y gwasanaeth bysiau’n cael ei amharu rywfaint o ddechrau’r gwasanaeth tan 1200 fel a ganlyn:

Yn ogystal mae rhai gwasanaethau hefyd yn cael eu dargyfeirio fel a ganlyn:-

Newidiadau i’r Gwasanaeth Bysiau oherwydd 10k Caerffili (Gwefan CBC Caerffili)

Manylion cyswllt defnyddiol

·       Ymholiadau rheilffyrdd cenedlaethol – 08457 484950

·       Traveline Cymru – 0871 200 22 33

·       National Express – 08717 818178

Parcio

Mae meysydd parcio yng nghanol y dref yn agos i’r llinell gychwyn, gan gynnwys Parcio a Theithio Caerffili, Ffordd Crescent, Ysgol St Martin, Maes Parcio Twyn (Ffordd allan wedi’i chyfyngu nes i’r Llwybr agor i’r cyhoedd yn dilyn y ras) a Gorsaf Rheilffordd Aber.

Os ydych yn defnyddio unrhyw un o’r meysydd parcio yng nghanol y dref fe’ch cynghorir i’w cyrraedd cyn 09:00 er mwyn caniatáu amser i’r ffyrdd fydd wedi cau ar gyfer y digwyddiad.