FAQs

Nid yw'r dyddiad yn gyfleus, oes modd i fi drosglwyddo fy nghofrestriad i rywun arall?
Oes. Os nad yw'r dyddiad yn gyfleus, byddwch chi'n gallu trosglwyddo eich cofrestriad i berson arall heb unrhyw gost ychwanegol. Anfonwch e-bost at 10Cilomedr@caerffili.gov.uk.
Ydw i'n gallu cael ad-daliad ar gyfer fy nghofrestriad i'r ras yn lle hynny?
Yn anffodus, nid ydyn ni mewn sefyllfa i gynnig ad-daliadau. Yn unol â'n telerau ac amodau, nid oes modd i ni gynnig ad-daliad i gystadleuwyr os bydd y digwyddiad yn cael ei ohirio.
Faint oed sy'n rhaid i mi fod i gymryd rhan yn y digwyddiad?
Rhaid i gystadleuwyr yn ras 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows fod yn 15 oed neu'n hŷn. Rhaid i gystadleuwyr y Ras Hwyl 2 Cilomedr fod yn 7 oed neu'n hŷn.
Pryd mae dyddiad cau'r cofrestru?
Mae modd i chi gofrestru hyd at ddiwrnod y digwyddiad.
Rydw i wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad, sut ydw i'n gwybod bod fy nghofrestriad wedi cael ei dderbyn?
Os wnaethoch chi gofrestru ar-lein, byddwch chi'n cael e-bost cadarnhau yn fuan ar ôl hynny. Os na chawsoch chi hwn, cysylltwch â ni drwy e-bost yn 10Cilomedr@caerffili.gov.uk.
Beth fydda i'n ei gael yn y cyfnod cyn y digwyddiad?
Bydd pob rhedwr yn cael pecyn gwybodaeth yn cynnwys rhif rhedwr a sglodyn i ddilyn eu hamser yn ystod y ras. Bydd y pecynnau hyn yn cael eu dosbarthu bythefnos cyn y digwyddiad.
Pa gategori ydw i'n perthyn iddo?
Mae'r categori 'gyda chysylltiad' ar gyfer y rhai sydd wedi cofrestru gyda chlwb rhedeg cysylltiedig. Mae'r categori 'heb gysylltiad' ar gyfer y rhai nad ydyn nhw'n gysylltiedig â chlwb rhedeg.
Sut mae gwneud newidiadau i fy nghofrestriad?
Mae modd gwneud newidiadau i'ch cofrestriad drwy e-bostio 10Cilomedr@caerffili.gov.uk
Pryd fydd fy mhecyn yn cyrraedd?
Bydd pecynnau'n cael eu hanfon tua phythefnos cyn y digwyddiad, gan gynnwys rhif rhedwr a sglodion amseru'r cystadleuydd. Os nad ydych chi wedi cael eich pecyn erbyn dydd Mercher 8 Mai, e-bostiwch 10Cilomedr@caerffili.gov.uk.
Pryd fydda i'n cael fy nghrys T?
Bydd crysau T yn cael eu dosbarthu ar ôl cwblhau'r ras. Bydd medal hefyd yn cael ei rhoi ar wahân.
Rydw i wedi cofrestru ond dydw i ddim yn gallu cymryd rhan, ydw i'n gallu cael ad-daliad?
Yn anffodus, nid oes modd i ni ad-dalu cofrestriadau i ras 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows.
A oes terfyn amser i gwblhau'r ras?
Mae gan ras 10 Cilomedr Bryn Meadows Caerffili derfyn amser o ddwy awr. Mae hyn i sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl o ganlyniad i gau ffyrdd.
Ble mae'r dechrau, y diwedd a phentref y cystadleuwyr?
Mae'r ras yn cychwyn ar Crescent Road ar bwys Castell Caerffili. Yng nghyffiniau'r llinell gychwyn/llinell derfyn, fe welwch chi bentref y cystadleuwyr.
A oes arwyddion a marsialiaid ar hyd y llwybr?
Oes, mae'r llwybr wedi'i arwyddo'n llawn a bydd marsialiaid yn eich cyfeirio chi ar hyd y llwybr cywir.
Ydw i'n gallu cymryd rhan yn y ras mewn gwisg ffansi?
Nid ydyn ni'n annog gwisg ffansi, mae'r digwyddiad yn cael ei weithredu yn unol â rheolau UK Athletics ac mae gan gystadleuwyr ddyletswydd gofal tuag at eu hunain a'u cyd-gystadleuwyr wrth gymryd rhan.
Ydw i'n gallu gwisgo clustffonau?
Mae defnydd o glustffonau wedi'i wahardd wrth redeg ras 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows. Y rheswm am hyn yw caniatáu cyfathrebu gwybodaeth bwysig megis rhybuddion ynghylch gwasanaethau brys a gan y marsialiaid ar y cwrs.
A fydd unrhyw le i storio fy mag yn ystod y digwyddiad?
Mae pabell fawr ar y safle i gadw bagiau am ddim ar gyfer y rhai sydd wedi cofrestru'n swyddogol i'r digwyddiad. Bydd angen i gystadleuwyr ddarparu'r darn datodadwy o'u rhif rhedwr nhw ar y diwrnod i ddefnyddio'r gwasanaeth cadw bagiau.
A yw'r cwrs yn addas ar gyfer cadair olwyn?
Ydy, mae cystadleuwyr mewn cadair olwyn yn cael eu hannog i gymryd rhan. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni ar gyfryngau cymdeithasol.
Beth ydw i'n ei gael am fy arian?
Byddwch chi'n cael pecyn gwybodaeth wedi'i ddosbarthu i'ch drws chi a fydd yn cynnwys eich rhif rhedwr cofrestredig a sglodyn tracio a fydd yn caniatáu i chi fynd ar-lein i weld eich amser. Yn dilyn y ras, bydd yr holl gystadleuwyr wedyn yn cael crys T ras 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows a medal newydd sbon.
A fydd ffotograffydd yn bresennol ar y diwrnod?
Bydd, fe fydd ffotograffydd yn bresennol ar y diwrnod. Bydd yr oriel luniau yn cael ei gosod ar-lein o fewn 48 awr ar ôl diwedd y ras. Yna, bydd lluniau ar gael i'w prynu'n uniongyrchol gan y ffotograffydd. Bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud ar gyfryngau cymdeithasol pan fydd yr oriel luniau yn fyw.
A oes dŵr ar gael yn ystod y digwyddiad?
Oes, mae dŵr ar gael i bawb sy'n cymryd rhan yn y ddwy ras.
Beth ddylwn i ei wneud os bydd angen sylw meddygol arna i yn ystod y digwyddiad?
Bydd staff meddygol yn bresennol ar y diwrnod os na fyddwch chi'n teimlo'n hwylus. Yn syml, gofynnwch i'r stiward agosaf i'ch cyfeirio chi atyn nhw. Rydyn ni'n awgrymu nad ydych chi'n rhedeg yn y digwyddiad os nad ydych chi'n teimlo'n hwylus yn y dyddiau sy'n arwain at y ras.