2021 Ras 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows wedi’i gohirio

5 Awst, 2020

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi bod yn monitro’r sefyllfa o ran yr achos parhaus o COVID-19 (coronafeirws) yn agos. Gan ystyried hyn ac er budd diogelwch y cyhoedd, rydyn ni wedi penderfynu gohirio Ras 10/2 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows a oedd wedi’i threfnu ar gyfer 13 Medi 2020.

Bydd Ras 10/2 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows nawr yn digwydd ddydd Sul 15 Mai 2022. Gyda’r ansicrwydd y mae’r pandemig hwn wedi’i achosi, rydyn ni’n gwerthfawrogi’n llawn bod nifer ohonoch chi wedi bod yn edrych ymlaen at ymuno â ni ym mis Medi i ddathlu ein cymuned wych. Ond, er eich iechyd chi, ac iechyd ein gwylwyr, gwirfoddolwyr, staff y digwyddiad a’r boblogaeth ehangach, credwn ni fod y penderfyniad hwn yn anghenrheidiol er mwyn caniatáu i’r digwyddiad cyrraedd ei lawn botensial.

Bydd pawb sydd wedi cofrestru yn cael eu trosglwyddo i’r dyddiad newydd yn awtomatig. Nid oes angen cysylltu â ni i ddiwygio unrhyw fanylion. Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth os ydych chi wedi cofrestru yn barod.

Bydd gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas â phryd i ddisgwyl pecynau rasio, gwybodaeth cau ffordd a manylion gweithredu eraill yn cael eu rhannu yn agosach at y digwyddiad.

Am ragor o fanylion, ewch i adran Cwestiynau Cyffredin ein gwefan: https://your.caerphilly.gov.uk/10k/cy/faqs


Gweld yr holl Newyddion >