Mae’r iechyd a lles y gymuned o’r pwys mwyaf, felly mae CBSC wedi bod yn monitro sefyllfa COVID-19 (Coronafirws newydd) yn ofalus, gan alinio ein hymateb i ganllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru, wrth baratoi ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau sydd ar ddod.
Yn unol â phenderfyniadau diweddar gan brif ddigwyddiadau chwaraeon fel Marathon Llundain, penderfynom ei bod er budd gorau rhedwyr, gwylwyr, gwirfoddolwyr a staff y digwyddiad i ohirio ras 10K/2K Bryn Meadows Caerffili a oedd fod i ddigwydd ar 17 Mai 2020.
Bydd ras 10K/2K Bryn Meadows Caerffili nawr yn digwydd ddydd Sul 13 Medi 2020. Rydym yn ymwybodol bod nifer ohonoch wedi bod yn ymarfer yn galed am amser hir, ond eich iechyd ac iechyd ein gwylwyr, gwirfoddolwyr, staff y digwyddiad a’r boblogaeth ehangach yw ein prif flaenoriaeth ar hyn o bryd. Rydyn ni’n deall ac yn rhannu eich siom gyda’r canlyniad hwn, ond, o ystyried yr amgylchiadau, credwn y bydd y gohirio yn caniatáu i’r digwyddiad gyrraedd ei lawn botensial ym mis Medi.
Bydd pob cais yn cael ei drosglwyddo’n awtomatig i’r dyddiad newydd. Nid oes angen cysylltu i newid unrhyw fanylion. Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth os ydych chi eisoes wedi cofrestru.
Bydd gwybodaeth ychwanegol ynglŷn â phryd y gellir disgwyl pecynnau rasio, gwybodaeth am gau ffyrdd a manylion gweithredol eraill yn cael eu rhannu ar adeg sy’n agosach i’r digwyddiad.
Am fwy o wybodaeth nei I gofrestru, ewch I: your.caerphilly.gov.uk/10k/