Rheolau a Rheoliadau

COFRESTRU

Drwy dalu ffi, rydych yn ymrwymo i gontract gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i gymryd rhan yn naill ai’r ras 10 cilomedr neu’r ras 2 gilomedr ar sail yr amodau hyn.

1. Rhaid i gystadleuwyr fod yn y categorïau oedran canlynol ar ddiwrnod y digwyddiad:

a. Rhaid i gystadleuwyr yn ras 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows fod yn 15 oed neu’n hŷn.

b. Rhaid i gystadleuwyr yn ras 2 Gilomedr Caerffili Bryn Meadows fod yn 7 oed neu’n hŷn.

2. Rhaid i gystadleuwyr fod yn ddigon ffit i gwblhau’r digwyddiad, ac mae’n ofynnol iddynt lofnodi ymwadiad cyn cymryd rhan.

3. Mae eich rhif cofrestru yn unigol i chi, ac ni ellir ei drosglwyddo na chael ad-daliad amdano. Gall defnyddio rhif rhywun arall arwain at ganlyniadau difrifol os bydd argyfwng meddygol.

IECHYD, DIOGELWCH A LLES

4. Mae pawb sy’n cymryd rhan yn y ras 10 cilomedr/2 gilomedr yn gwneud hynny ar eu menter eu hunain. Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cymryd cyfrifoldeb am unrhyw salwch, anaf, colled neu niwed yn achos y cystadleuwyr.

5. Os ydych wedi dioddef problemau iechyd yn y gorffennol, byddem yn eich cynghori i geisio cyngor meddygol cyn cymryd rhan yn y ras 10 cilomedr/2 gilomedr.

6. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cadw’r hawl i newid y cwrs, heb roi gwybod i’r cystadleuwyr, cyn y digwyddiad ac ar ddiwrnod y digwyddiad.

7. Bydd disgwyl i gystadleuwyr wisgo dillad ac esgidiau addas er mwyn cwblhau’r ras 10 cilomedr/2 gilomedr.

8. Dylai cystadleuwyr ymgynnull wrth y llinell gychwyn yn Crescent Road, Caerffili, ar yr amseroedd canlynol:

a. Dylai cystadleuwyr yn y ras 2 gilomedr gyrraedd erbyn 09:10 i ddechrau’r ras am 09:15.

b. Dylai cystadleuwyr yn y ras 10 cilomedr gyrraedd erbyn 09:45 i ddechrau’r ras am 10:00.

9. Bydd ffyrdd priodol ar gau ar hyd gwahanol lwybrau i mewn i Gaerffili.

10. Rydym yn cadw’r hawl i wrthod mynediad i gystadleuwyr nad ydynt yn cyrraedd mewn pryd i ymgynnull ar yr amser penodedig uchod.

11. Ni fyddwn yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw un sy’n cymryd rhan yn y ras 10 cilomedr/2 gilomedr nad yw’n gystadleuydd swyddogol. Cystadleuydd swyddogol yw rhywun y mae ei ffurflen gais wedi’i derbyn gennym, ac sydd wedi cael rhif cofrestru ac wedi cyflawni’r gweithdrefnau cofrestru.

12. Rydym yn cadw’r hawl i wrthod mynediad i’r ras 10 cilomedr/2 gilomedr neu ofyn i chi beidio â chymryd rhan:

a. Os credwn, o ymddwyn yn rhesymol, eich bod yn ceisio cymryd rhan mewn modd: a. all achosi anaf i chi b. all achosi anaf i gystadleuydd arall c. sy’n debygol o beri tramgwydd d. sy’n peri risg neu risg posibl i iechyd a diogelwch cystadleuwyr, gan eich cynnwys chi

b. Os ydych yn methu â chyrraedd y lleoliad cychwyn ar yr amser penodedig

c. Os na allwch symud ymlaen ddigon yn y digwyddiadau, ym marn resymol y swyddogion, i’ch caniatáu i chi eu cyflawni erbyn yr amseroedd gosodedig, sef 2 awr ar gyfer y ras 10 cilomedr a 30 munud ar gyfer y ras 2 gilomedr.

d. Os ydych yn gwisgo clustffonau neu ddyfeisiau tebyg nad ydynt yn cael eu caniatáu.

CANSLO

13. Gallwn ganslo’r ras 10 cilomedr a/neu’r ras 2 gilomedr os bydd amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth yn codi a fyddai, yn ein barn resymol, yn achosi i’r digwyddiad fod yn beryglus i’r cystadleuwyr a/neu’r staff. Mewn amgylchiadau o’r fath:

a. Os yw’n ymarferol, byddwn yn anfon hysbysiad ysgrifenedig o ganslo i’r cyfeiriad sydd gennym ar eich cyfer.

b. Os byddwn yn canslo’n rhy hwyr i anfon hysbysiad ysgrifenedig atoch, byddwn yn gwneud pob ymdrech resymol i roi gwybod i chi mewn ffyrdd addas eraill.

c. Mewn amgylchiadau o’r fath, byddwn yn ad-dalu’ch ffi gyfan.

14. Gallwn ganslo’r ras 10 cilomedr a/neu’r ras 2 gilomedr os na fydd digon o gystadleuwyr wedi’u cadarnhau ddau fis cyn y dyddiad i wneud y digwyddiadau’n hyfyw. Mewn amgylchiadau o’r fath, byddwn yn ad-dalu’ch ffi gyfan.

15. Os bydd y ras 10 cilomedr a/neu’r ras 2 gilomedr yn cael eu canslo, ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw gostau yn ymwneud â disgwyl cymryd rhan yn y naill ddigwyddiad a’r llall, neu o ganlyniad i’w canslo, gan gynnwys unrhyw gostau llety neu deithio.

DIOGELU DATA

16. Rydych yn caniatáu i ni gadw eich gwybodaeth bersonol, a’i defnyddio, mewn cysylltiad â gwaith trefnu, cynnal a gweinyddu’r ras 10 cilomedr/2 gilomedr.

17. Rydych yn caniatáu i ni ddefnyddio eich enw a’ch manylion cyswllt er mwyn hyrwyddo a marchnata’r digwyddiadau 10 cilomedr/2 gilomedr yn y dyfodol, a’ch ychwanegu at restr bostio er mwyn rhoi gwybod i chi am unrhyw ddigwyddiadau a gwasanaethau yn y dyfodol y credwn y byddent o ddiddordeb i chi, fel digwyddiadau tebyg a gweithgareddau mewn lleoliadau tebyg. HYRWYDDO A HYSBYSEBU

18. Gall lluniau gael eu tynnu sy’n eich dangos yn cymryd rhan yn y ras 10 cilomedr/2 gilomedr. Rydych yn caniatáu cyhoeddi lluniau sy’n ddarluniad cywir ohonoch yn cymryd rhan yn y ras yng nghyd-destun adroddiad sy’n ymwneud â’r ras 10 cilomedr/2 gilomedr yn unig, a gellir eu defnyddio i hysbysebu’r digwyddiadau yn y dyfodol.