Y Llwybr

*Dylech fod yn ymwybodol y gallai’r cwrs gael ei newid neu ei addasu cyn dyddiad y digwyddiad*

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am gau’r ffyrdd

PECYNNAU RHEDEG

Bydd pecynnau gwybodaeth sy’n cynnwys eich sglodion amseru a’ch rhif rhedeg yn cael eu hanfon o ddydd Sul 28 Ebrill. Os na fydd eich pecyn yn cyrraedd o fewn y cyfnod a nodwyd uchod, cysylltwch ar gyfeiriad e-bost y 10k: 10k@caerphilly.gov.uk

GWYBODAETH AM Y CWRS

Er mwyn cynorthwyo gyda chynllunio’ch ymweliad, edrychwch ar ein Gwybodaeth Cyfranogwyr i gael llawer o wybodaeth am deithio i’r digwyddiad, cyfleusterau ar y safle a gwybodaeth gyffredinol am y digwyddiad.

Pecyn gwybodaeth 10k Caerffili 10k (PDF) (Fersiwn 2021 yn dod yn fuan)

GWOBRAU

Cyhoeddir y rhestr gwobrau a dyfarniadau o fewn 48 awr ar ôl y digwyddiad.

GWYBODAETH RHEDEG

Map Gwybodaeth Cyfranogwyr 2017 (PDF)

Mae’r wybodaeth ganlynol yn bwysig i bawb sy’n cymryd rhan, darllenwch yn ofalus:

1.     Y CWRS

Mae cwrs 10k Caerffili yn seiliedig ar gwrs un lap felly nid yw’r rhedwyr cyflymaf yn debygol o lapio’r rhedwyr arafach. Mae’r llinell ddechrau a’r llinell derfyn wedi’u lleoli oddi ar Heol Cilgant, y tu ôl i Gastell Caerffili, ac wedi’u marcio gan nenbont. Bydd ffyrdd yn cael eu hagor fel rhan o system cau ffyrdd dreigl wedi i’r rhedwyr yn y cefn basio pwyntiau allweddol ar y cwrs.

2.     AMSEROEDD DECHRAU

Bydd 10k Caerffili yn dechrau am 10:00am a bydd 2k Caerffili yn dechrau am 9.15am.

Er mwyn hwyluso’r digwyddiad bydd nifer o ffyrdd ar gau o amgylch y cwrs, felly dylech ganiatáu digon o amser i gyrraedd y llinell ddechrau o ystyried bod ffyrdd ar gau ac er mwyn manteisio ar y man gollwng bagiau wrth y llinell ddechrau.

Gwybodaeth ynghylch tonnau i ddilyn.

Bydd pob rhedwr yn derbyn sglodyn amser fel rhan o’u pecyn gwybodaeth. Mae defnyddio sglodyn amser yn golygu fod pawb sy’n cymryd rhan yn derbyn amser cywir o’u hamser yn y ras – waeth pa amser maen nhw’n croesi’r Nenbont Dechrau.

3.     LLINELL DDECHRAU/GORFFEN AC ARDAL Y RHEDWYR

Mae’r llinell dechrau/derfyn wedi’u cyd-leoli ar Heol Cilgant, gan ganiatau mynediad hawdd at gyfleusterau lles gan gynnwys dŵr a Chymorth Cyntaf os oes angen. Byddwch yn gallu mynd at y rhain o’r llinell ddechrau/derfyn ym Mhentref y Rhedwyr.

Cynlluniwyd y maes i wahardd y cyhoedd rhag cael mynediad at y llinell. Bydd gwylwyr yn gyfyngedig i’r mannau glaswellt naill ochr i  Heol Cilgant.

Bydd y Pentref Rhedwyr yn cynnwys cyfleusterau lles a chymorth cyntaf, toiledau, man ar gyfer bagiau, ardal newid a gweithgareddau chwaraeon.

4.      RHIF AR DDIWRNOD Y RAS A GWISG

Pe byddai rhedwr angen triniaeth feddygol, bydd ymarferwyr meddygol yn edrych ar gefn rhif rhedwr am fanylion meddygol hanfodol am y rhedwr a allai effeithio’n ddifrifol ar unrhyw driniaeth. Am y rheswm hwn yn bennaf y byddwn yn gofyn i chi beidio â rhedeg gan ddefnyddio rhif dynodedig rhywun arall.

Mae’n ofynnol i’r holl redwyr lenwi’r manylion cyswllt a’r manylion meddygol ar gefn eu rhif ras cyn cymryd rhan yn y ras a bod eu perthynas agosaf yn ymwybodol o’u rhif ras.

Gofynnir i redwyr wisgo dillad priodol ar gyfer y tywydd.

5.      CYMORTH MEDDYGOL YN YSTOD Y RAS

Cynghorir rhedwyr i newid i ddillad sych cyn gynted ag y bydd hi’n ymarferol ac i yfed ychydig ac yn aml ar ôl y ras.

Bydd y brif Uned Cymorth Cyntaf wedi’i lleoli ar y llinell derfyn ond bydd staff Cymorth Cyntaf wedi’u lleoli ar hyd y cwrs ac mewn cysylltiad â’i gilydd drwy gyfathrebu radio dwy ffordd.

Dylai unrhyw redwyr sy’n cael trafferth beidio â rhedeg a cheisio cymorth gan yr uned cymorth cyntaf agosaf / staff neu stiward / weithiwr swyddogol y digwyddiad. Os oes angen, trefnir trafnidiaeth i gludo rhedwyr yn ôl i’r ardal gorffen lle mae’r brif uned cymorth cyntaf wedi’i leoli ar gyfer triniaeth bellach posibl.

Os ydych yn teimlo’n sâl pan fyddwch yn gorffen – symudwch i ochr yr ardal gorffen a gofyn am gymorth gan y tîm meddygol sydd wrth law ac wedi’u hyfforddi i’ch helpu.

Rhaid i’r holl redwyr fod yn barod i stopio a gadael i wasanaethau brys a cherbydau’r digwyddiad fynd ar hyd cwrs y digwyddiad os oes angen.