Cofrestru

FFIOEDD COFRESTRU

Heb Ymaelodi: £22
Aelodaeth Athletau Cymru/Clwb: £20
Consesiynau – dros 60 a chofrestriadau cadair olwyn: £20
2k Ieuenctid £7.50

Ar gyfer ymholiadau penodol am fanylion 10cilomedr Caerffili Bryn Meadows, cysylltwch â’r Llinell Wybodaeth ar 10k@caerphilly.gov.uk

GWYBODAETH I GYFRANOGWYR

Er mwyn eich helpu gyda chynllunio eich ymweliad, ewch i weld Gwybodaeth i’r Sawl sy’n Cymryd Rhan am lawer o wybodaeth ar deithio i’r digwyddiad, cyfleusterau ar y safle a gwybodaeth gyffredinol am y digwyddiad.

2K

Bydd y 2k yn digwydd yn erbyn cefndir Castell Caerffili. Bydd y sawl sy’n cymryd rhan yn cael eu hamseru drwy ddefnyddio sglodion ac yn derbyn medal a phecyn gwobrau ar ôl gorffen y ras. Bydd gofyn i’r sawl sy’n cymryd rhan fod yn 7+ mlwydd oed ar ddiwrnod y digwyddiad er mwyn cymryd rhan.

LLEOEDD ELUSEN

Nid yw codi arian wedi’i gyfyngu i unrhyw un elusen. Rhaid i unigolion a thimau sydd yn dymuno codi arian ar gyfer elusen ddynodedig wneud hynny mewn cydweithrediad â’u helusen o ddewis.

PECYNNAU GWYBODAETH

Bydd pecynnau gwybodaeth sy’n cynnwys eich sglodion amseru a’ch rhif rhedeg yn cael eu hanfon o ddydd Sul 28 Ebrill. Os na fydd eich pecyn yn cyrraedd o fewn y cyfnod a nodwyd uchod, cysylltwch ar gyfeiriad e-bost y 10k: 10k@caerphilly.gov.uk

YMAELODI

Bydd ceisiadau gan Glybiau’r DU sydd wedi ymaelodi gyda Bwrdd Llywodraethu Chwaraeon yn cael eu hystyried ar gais. Anfonwch e-bost at 10k@caerphilly.gov.uk gan gynnwys eich enw, cyfeiriad a rhif y clwb i gael eich ystyried i gofrestru.