Croeso i ras 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows
Disgwylir i Ras 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows ddychwelyd yn 2025 ar ddydd Sul 11 Mai, ynghyd â Ras 2 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows.
Gyda disgwyl i 2,500 o redwyr o bob gallu ddod i Gaerffili o bob cwr o’r wlad i fwynhau’r digwyddiad, rydyn ni’n disgwyl i’r digwyddiad yn 2025 fod yn fwy ac yn well.
Ac yntau’n digwydd yng nghysgod Castell Caerffili, bydd Ras 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows yn dechrau ac yn gorffen ar Crescent Road. Bydd gan redwyr y cyfle i gael amser rhedeg da ar gwrs cymharol wastad gyda rhai pwyntiau bryniog. Bydd y cwrs yn arwain cyfranogwyr drwy ganol y dref, ac o’i chwmpas, gan fynd heibio tirnodau eiconig, gan gynnwys y cerflun enfawr o gaws a cherflun Tommy Cooper, ar hyd y ffordd, ac yn cynnig golygfeydd gwych o’r castell canoloesol, sy’n gefndir syfrdanol i’r digwyddiad blynyddol.
Cafodd record y cwrs ei gosod gan Dewi Griffiths yn 2024 a basiodd y llinell derfyn mewn 29 munud a 12 eiliad. Mae Rachel Felton yn dal record y cwrs benywaidd mewn amser o 34.59. Mae disgwyl i lawer o ymgeiswyr elitaidd a chystadleuol geisio cipio’r record ar gyfer 2023.
Trefnwyd y digwyddiad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, wedi’i noddi gan Bryn Meadows Golf, Hotel and Spa ac wedi’i gefnogi gan Athletau Cymru a Chwaraeon Cymru.